Welsh Mountain Zoo | Ein hanes

Ein hanes

Agorodd y Sŵ Fynydd Gymreig ei drysau i'r cyhoedd yn 1963, gan wireddu breuddwyd Robert Jackson, sylfaenydd y Sŵ a oedd yn naturiaethwr profiadol a fu’n ymddiddori drwy gydol ei oes mewn bywyd gwyllt.


Roedd Gerddi Flagstaff yn perthyn i’r Cyngor, ac ar safle ar y bryniau uwchlaw Bae Colwyn. Roedd yn ardal drawiadol o goetiroedd a gerddi heb eu difetha gyda golygfeydd godidog o'r mynyddoedd a'r môr. Dyma’r safle perffaith i Robert ddilyn ei ddyheadau cadwraethol. Yn dilyn trafodaethau llwyddiannus gyda'r Cyngor, symudodd y teulu Jackson gan gynnwys ei wraig Margaret a'u tri mab ifanc, i fyw i'r ardal. Yn fuan wedyn, dechreuodd y gwaith o adeiladu cam cyntaf datblygiad y Sŵ, gan fwrw ymlaen drwy'r gaeaf gwaethaf o fewn cof tan iddi agor yng Ngwanwyn 1963.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd Robert a Margaret eu hymdrechion ar greu canolfan fridio ar gyfer rhywogaethau prin ac anarferol. Ar yr un pryd roeddent yn arloesi drwy gyflwyno technegau arddangos newydd yn ogystal â sesiynau adar ysglyfaethus oedd yn hedfan yn rhydd, sesiynau morloi clustiog wedi’u hyfforddi a sesiynau trin nadroedd.

Erbyn 1969, roedd Robert wedi dechrau cynnal trafodaethau i droi'r busnes preifat yn ymddiriedolaeth elusennol – ond yn anffodus, nid welodd Robert ei freuddwyd a'i ddyheadau yn cael eu gwireddu ac fe fu farw’n drasig iawn ym mis Mai 1969.

Tua deng mlynedd yn ddiweddarach, ailgydiodd y teulu Jackson yn y trafodaethau i roi uchelgais Robert ar waith. Yn 1983, ffurfiwyd Cymdeithas Sŵolegol Cymru a fabwysiadodd fuddiannau’r Sŵ a’r gwaith o’i gweithredu yn swyddogol. Ysgwyddodd y tri brawd Jackson y gwaith o reoli gweithrediad ehangach y Sŵ, a phob un yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr, gan adrodd i Fwrdd o Ymddiriedolwyr Elusennol y Sŵ.

Yn 2008, gyda chefnogaeth prif elusennau sŵau y DU, Cymdeithas Sŵau ac Acwaria Prydain ac Iwerddon a Llywodraeth Cynulliad Cymru, newidiodd y Sŵ ei henw i Gymdeithas Sŵolegol Genedlaethol Cymru a chafodd y Sŵ Fynydd Gymreig ei chydnabod yn swyddogol fel Sŵ Genedlaethol Cymru.

1963
Y Sw Fynydd Gymreig yn agor ei drysau i’r cyhoedd

1963
Lansio arddangosiad o adar ysglyfaethus yn hedfan yn rhydd – y cyntaf o’i fath yn Ewrop

1967
Adeiladu ffald gyfredol Llewpard yr Eira

1970
Adeiladu Pwll y Pengwiniaid a ‘Caffi Pengwin’, a agorwyd gan Syr Harry Secombe

1983
Ennill statws elusennol fel Cymdeithas Swolegol Cymru

1990
Byd y Tsimpansî, Rhaeadr yr Eirth a Chanolfan Achub Morloi Gogledd Cymru yn agor

2008
Dod yn Sw Genedlaethol Cymru

2015
Y Sw yn denu 160,000 o ymwelwyr – nifer record mewn 20 mlynedd

2018
Lansio Prosiect y Ffordd Sidan

2020
Adeilad newydd Llewpard yr Eira yn agor

Gwefan gan FutureStudios